Croeso i’r Talbot

 

ORIAU AGOR 

Dydd Mawrth 4yh-Dydd Sul 4yh bob wythnos.

AR GAU Dydd Sul 4yh-Dydd Mawrth 4yh

Mae oriau agor arferol yn berthnasol ar bob dyddiad arall

Gwesty, bar a bwyty annibynnol sy’n berchen i Mick a Nia Taylor a’r Prif Gogydd Dafydd Watkin. Bwydlenni o fwydydd lleol, cwrw a seidr Cymreig ac adeilad rhestredig Gradd 2 yn llawn cymeriad gyda gwaith celf a ffotograffau hanesyddol.

Rydym yn falch iawn o’n staff dwyieithog lleol sy’n darparu croeso cynnes a gwasanaeth gwych.

Croesawir cŵn i’r bar, gardd a’n tair ystafell wely sy’n wynebu’r ardd.

Mae gan y bar a’r bwyty fynediad gwych i westeion anabl. Mae tŷ bach hygyrch i gadeiriau olwyn a chyfleusterau newid i fabanod ar y llawr gwaelod ynghyd ag ystafell wely hygyrch wedi’i hadeiladu i’r diben.

Mae ein gardd tirlun a theras yn cynnig cyfle i fwyta’n alfresco, os yw’r tywydd yn caniatáu!
Mae wi-fi am ddim ar gael ar draws yr adeilad.