Ystafelloedd yn y Talbot
Tafarn wledig Gymreig sy’n llawn cymeriad, yn hudolus ac yn groesawgar.
Mae gennym 13 o ystafelloedd gwely a bwyd y mae ein gwesteion yn fodlon teithio i’w flasu. Mae’r Talbot yn aelod o Welsh Rarebits a Great Inns, wedi’i rhestru yn arweiniad Michelin ac wedi derbyn 2 Rhoséd AA ar gyfer ein bwyty.
Mae ein 9 o ystafelloedd a switiau rhagorol yn cynnig lefel uchel o gysur, décor tawel ac ystafelloedd ymolchi arbennig.
Mae gan y gwelyau difan moethus maint brenhines neu frenin (gweler disgrifiadau ystafell manwl) duvet heb blu a gorchuddion duvet cotwm cras gyda’r dewis o ddefnyddio blancedi gwlân Cymreig. Mae’r ystafelloedd ymolchi moethus yn cynnwys cawodydd mawr gyda digonedd o ddŵr poeth. Mae baddon mewn dwy o’r ystafelloedd. Mae celf a ffotograffiaeth drawiadol, blancedi gwlân Cymreig a nodweddion gwreiddiol oll yn cynnig addurn deniadol.
Mae Wi-fi, te, cafetière, bisgedi a dŵr potel am ddim ar gael yn yr holl ystafelloedd.
Mae ein 4 ystafell safonol (dwy ystafell gefell a dwy sengl) yn llai ac ychydig yn symlach na’n Hystafelloedd Rhagorol ond yn cynnig llety ensuite cyfforddus gyda chawod pŵer annibynnol, gwelyau difan sengl gyda the, coffi, dŵr potel a wi-fi am ddim.
Mae ein pedair Ystafell Ddwbl Ragorol wedi’u lleoli ar y llawr cyntaf neu’r ail lawr ac mae ganddynt olygfa ddeniadol dros sgwâr prysur y dref. Mae meintiau’r ystafelloedd yn amrywio ond mae’r cyfan yn rhannu nodweddion tebyg ac ystafell ymolchi foethus gyda chawod annibynnol. Mae’r décor yn syml a thawel.
Ymhlith y cyfleusterau y mae te a cafetière, dŵr potel a Wi-Fi am ddim.
Mae gan yr ystafell ddwbl neu efell eang hon olygfeydd deniadol dros sgwâr y dref. Mae’r ystafell ymolchi foethus fawr yn cynnwys baddon a chawod ar wahân. Mae ffenestri sash mawr a nodweddion o’r cyfnod yn rhoi teimlad golau ac eang i’r ystafell hon.
Ymhlith y cyfleusterau y mae te a cafetière, dŵr potel a Wi-fi am ddim.
Mae gan yr ystafell drawiadol a phreifat iawn hon ar y llawr uchaf olygfa ddeniadol dros sgwâr y dref. Yn ychwanegol at wely maint brenin ceir ardal eistedd gyfforddus. I deulu, mae’r soffa yn troi yn wely i ddau blentyn (hyd at 12 oed). Mae’r ystafell ymolchi foethus fawr yn cynnwys baddon a chawod ar wahân.
Ymhlith y cyfleusterau y mae te a cafetière, bisgedi, dŵr potel a Wi-Fi am ddim.
Mynediad hawdd i’r anabl neu’r rhai â symudedd cyfyngedig (dim grisiau na rampiau). Ystafell wlyb foethus gyda sinc a thoiled lefel isel a chawod â sedd. Mae’r ystafell hon yn derbyn canmoliaeth yn aml am ei chynllun hygyrch oherwydd ei mynediad rhwydd i’r bwyty, bariau ac ardal barcio. Gweler ein Datganiad Mynediad am fanylion pellach.
Gall cŵn da ddefnyddio’r ystafell hon trwy drefniant o flaen llaw.
Ymhlith y cyfleusterau y mae te a cafetière, dŵr potel a Wi-Fi am ddim.
Ceir mynediad atynt i fyny’r grisiau o’r cwrt cefn, ac mae’r ystafelloedd eang hyn yn cynnwys ardal eistedd fawr gyda balconi Juliet yn edrych dros ardd teras deniadol. At ddefnydd teulu, mae’r soffa yn troi yn wely ychwanegol ar gyfer hyd at ddau o blant (12 oed neu iau). Ystafell ymolchi foethus gyda chawod annibynnol.
Derbynnir cŵn da yn yr ystafelloedd hyn trwy gytundeb o flaen llaw.
Ymhlith y cyfleusterau y mae te a cafetière, bisgedi, dŵr potel a Wi-Fi am ddim.
Mae ein hysgafelloedd Gefell a Sengl Safonol yn wynebu’r ardd gefn ac yn llai ac yn symlach na’n Hystafelloedd Rhagorol ond yn cynnig llety ensuite cyfforddus gyda chawodydd pŵer. Ymhlith y cyfleusterau y mae te a choffi, dŵr potel, teledu a Wi-Fi am ddim.